30 Ond nid oedd Sihon brenin Hesbon yn fodlon inni deithio trwodd, oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi caledu ei ysbryd a gwneud ei galon yn ystyfnig er mwyn ei roi yn eich llaw chwi, fel y mae heddiw.
31 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Edrych, yr wyf wedi dechrau rhoi Sihon a'i dir i ti; dos ati i gymryd meddiant o'i wlad.”
32 Daeth Sihon a'i holl fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Jahas;
33 a rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw ef yn ein dwylo, a lladdasom ef a'i feibion a'i holl fyddin.
34 Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd, a difa'n llwyr bawb oedd ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a plant. Ni adawsom neb ar ôl,
35 ond cymryd y gwartheg yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd a orchfygwyd gennym.
36 O Aroer, a oedd ar lan nant Arnon, cyn belled â Gilead a'r ddinas oedd yn y dyffryn, nid oedd yr un gaer yn rhy gadarn inni. Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw y cyfan ohonynt yn ein dwylo.