32 Daeth Sihon a'i holl fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Jahas;
33 a rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw ef yn ein dwylo, a lladdasom ef a'i feibion a'i holl fyddin.
34 Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd, a difa'n llwyr bawb oedd ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a plant. Ni adawsom neb ar ôl,
35 ond cymryd y gwartheg yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd a orchfygwyd gennym.
36 O Aroer, a oedd ar lan nant Arnon, cyn belled â Gilead a'r ddinas oedd yn y dyffryn, nid oedd yr un gaer yn rhy gadarn inni. Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw y cyfan ohonynt yn ein dwylo.
37 Ond nid aethoch yn agos i wlad yr Ammoniaid, oddeutu nant Jabboc, nac ychwaith i ddinasoedd y mynydd-dir, nac i unrhyw le a waharddodd yr ARGLWYDD ein Duw inni.