8 Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid â gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog.” Felly, gwneir cymod am y gwaed.
9 Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,
11 ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.
12 Tyrd â hi adref, a gwna iddi eillio'i phen, naddu ei hewinedd,
13 a rhoi heibio'r wisg oedd amdani pan ddaliwyd hi; yna caiff fyw yn dy dŷ a bwrw ei galar am ei thad a'i mam am fis o amser. Wedi hynny cei gyfathrach â hi, a bod yn ŵr iddi hi, a hithau'n wraig i ti.
14 Ond os na fyddi'n fodlon arni, yr wyt i'w gollwng yn rhydd; nid wyt ar unrhyw gyfrif i'w gwerthu am arian na'i thrin fel caethferch, gan iti ei threisio.