3 Nid ydynt i'w guro â mwy na deugain llach rhag iddo, o'i fflangellu lawer mwy na hyn, fynd yn wrthrych dirmyg yn d'olwg.
4 Nid wyt i roi genfa am safn ych tra byddo'n dyrnu.
5 Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd.
6 Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.
7 Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, “Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith â mi.”
8 Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, “Nid wyf yn dymuno ei phriodi”,
9 bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.”