18 Gwyliwch rhag bod yn eich mysg heddiw na gŵr, gwraig, tylwyth, na llwyth a'i galon yn troi oddi wrth yr ARGLWYDD ein Duw i fynd ac addoli duwiau'r cenhedloedd hynny, a rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn cynhyrchu ffrwyth gwenwynig a chwerw.
19 Os bydd un felly yn clywed geiriau'r cytundeb hwn trwy lw, yn ei ganmol ei hun yn ei galon ac yn dweud, “Byddaf fi'n ddiogel, er imi rodio yn fy nghyndynrwydd”, gwylied; oherwydd ysgubir ymaith y tir a ddyfrhawyd yn ogystal â'r sychdir.
20 Bydd yr ARGLWYDD yn anfodlon maddau iddo; yn wir bydd ei ddicter a'i eiddigedd yn cynnau yn erbyn hwnnw, a bydd yr holl felltithion a groniclir yn y llyfr hwn yn disgyn arno. Bydd yr ARGLWYDD yn dileu ei enw oddi tan y nefoedd,
21 ac yn ei osod ar wahân i lwythau Israel i dderbyn drwg yn ôl holl felltithion y cyfamod a gynhwysir yn y llyfr hwn o'r gyfraith.
22 Bydd y genhedlaeth nesaf, sef eich plant a ddaw ar eich ôl, a'r estron a ddaw o wlad bell, yn gweld y plâu a'r clefydau a anfonodd yr ARGLWYDD ar y wlad.
23 Bydd brwmstan a halen wedi llosgi'r holl dir, heb ddim yn cael ei hau, na dim yn egino, na'r un blewyn glas yn tyfu ynddo. Bydd fel galanastra Sodom a Gomorra, neu Adma a Seboim, y bu i'r ARGLWYDD eu dymchwel yn ei ddicter a'i lid.
24 A bydd yr holl genhedloedd yn gofyn, “Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD hyn i'r wlad hon? Pam y dicter mawr, deifiol hwn?”