1 Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei.
2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf yn ei roi ef a'i holl bobl a'i dir yn dy law. Gwna iddo fel y gwnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon.”
3 Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw Og brenin Basan a'i holl fyddin yn ein dwylo, a lladdasom hwy, heb adael un yn weddill.
4 Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd heb adael yr un ar ôl, sef trigain ohonynt, y cyfan o diriogaeth Argob, teyrnas Og yn Basan.