18 Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.
19 Ond y mae eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid—a gwn fod gennych lawer o anifeiliaid—i aros yn y trefi a roddais i chwi
20 nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn ôl i'r diriogaeth a roddais i chwi.”
21 Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, “Yr wyt wedi gweld â'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn.
22 Paid â'u hofni, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd trosoch.”
23 Yr adeg honno ymbiliais â'r ARGLWYDD, a dweud,
24 “O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di?