2 os byddi'n troi'n ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, a thi a'th blant yn gwrando ar ei lais, yn union fel yr wyf yn gorchymyn iti heddiw,
3 yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn adfer llwyddiant iti ac yn tosturio wrthyt, ac yn dy gasglu eto o blith yr holl genhedloedd y gwasgarodd di ynddynt.
4 Pe byddit wedi dy yrru i'r cwr pellaf dan y nef, byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy gasglu ac yn dy gymryd oddi yno.
5 Daw'r ARGLWYDD dy Dduw â thi i'r wlad a feddiannodd dy hynafiaid, a byddi dithau'n ei meddiannu; bydd ef yn dy lwyddo ac yn dy wneud yn fwy niferus na'th hynafiaid.
6 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn enwaedu dy galon, a chalonnau dy ddisgynyddion, er mwyn iti garu yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, fel y byddi fyw.
7 A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn gosod yr holl felltithion hyn ar dy elynion a'th gaseion, a fu'n dy erlid.
8 Byddi di unwaith eto'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD ac yn cadw ei holl orchmynion, y rhai yr wyf fi'n eu rhoi iti heddiw.