1 Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf;clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau.
2 Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw,a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith,fel glaw mân ar borfa,megis cawodydd ar laswellt.
3 Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD,cyffeswch fawredd ein Duw.
4 Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith,a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un.Duw ffyddlon heb dwyll yw;un cyfiawn ac uniawn yw ef.
5 Y genhedlaeth wyrgam a throfaus,sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato,nid ei blant ef ydynt o gwbl!
6 Ai dyma eich tâl i'r ARGLWYDD,O bobl ynfyd ac angall?Onid ef yw dy dad, a'th luniodd,yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd?
7 Cofia'r dyddiau gynt,ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu;gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti;neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.