12 Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,heb un duw estron gydag ef.
13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear,a bwyta cnwd y maes;parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn,ac olew o'r graig gallestr.
14 Cafodd ymenyn o'r fuches,llaeth y ddafad a braster ŵyn,hyrddod o frid Basan, a bychod,braster gronynnau gwenith hefyd,a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.
15 Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni;pesgodd Jesurun, a chiciodd;pesgodd, a thewychu'n wancus.Gwrthododd y Duw a'i creodd,a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.
16 Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr,a'i ddigio ag arferion ffiaidd.
17 Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau,ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod,duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion,nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
18 Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd,a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.