15 â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,a ffrwythlondeb y bryniau oesol,
16 â gorau'r ddaear a'i llawnder,a ffafr preswylydd y berth.Doed hyn i gyd ar ben Joseff,ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
17 Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.
18 Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.
19 Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.
20 Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.
21 Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.