6 Bydded Reuben fyw, ac nid marw,ond na foed ei dylwyth yn niferus.
7 A dyma a ddywedodd am Jwda:Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,a dwg ef at ei bobl;â'i ddwylo yr ymdrechodd—ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.
8 Dywedodd am Lefi:Rho i Lefi dy Twmim,a'th Wrim i'r un sy'n ffyddlon iti;fe'i profaist yn Massa,a dadlau ag ef wrth ddyfroedd Meriba.
9 Fe ddywed am ei dad a'i fam,“Nid wyf yn eu hystyried”,ac nid yw'n cydnabod ei frodyrnac yn arddel ei blant.Oherwydd bu'n cadw dy airac yn gwarchod dy gyfamod.
10 Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacoba'th gyfraith i Israel.Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron,a'r aberth llwyr ar dy allor.
11 Bendithia, O ARGLWYDD, ei wrhydri,a derbyn waith ei ddwylo.Dryllia lwynau'r rhai sy'n codi yn ei erbyn,ac eiddo'i gaseion, rhag iddynt godi eto.
12 Dywedodd am Benjamin:Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch;bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd,a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.