38 a gyrru allan o'th flaen genhedloedd oedd yn fwy ac yn gryfach na thi, a'th arwain a rhoi iti eu gwlad yn etifeddiaeth, fel y mae heddiw.
39 Heddiw yr wyt ti i gydnabod ac i ystyried mai'r ARGLWYDD sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod, ac nad oes un arall.
40 Cadw ei ddeddfau, a'r gorchmynion yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y bydd yn dda arnat ac ar dy blant ar dy ôl, ac iti gael oes faith ar y ddaear y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti am byth.
41 Yna neilltuodd Moses dair dinas yn y dwyrain, yn y tir y tu hwnt i'r Iorddonen,
42 er mwyn i'r sawl a fyddai'n lladd ei gymydog yn anfwriadol, heb elyniaeth rhyngddynt yn flaenorol, gael ffoi iddynt. Trwy ffoi i un o'r dinasoedd hyn byddai'n arbed ei fywyd.
43 Y dinasoedd oedd: Beser yng ngwastatir yr anialwch ar gyfer y Reubeniaid; Ramoth yn Gilead ar gyfer y Gadiaid; Golan yn Basan ar gyfer y Manasseaid.
44 Dyma'r gyfraith a osododd Moses gerbron yr Israeliaid.