46 pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft.
47 Cymerasant ei wlad ef a gwlad Og brenin Basan, dau frenin yr Amoriaid oedd yn y dwyrain, yn y diriogaeth y tu hwnt i'r Iorddonen.
48 Yr oedd y diriogaeth yn ymestyn o Aroer, ar lan nant Arnon, at Fynydd Sirion, sef Hermon,
49 ac yn cynnwys y cyfan o'r Araba i'r dwyrain o'r Iorddonen, hyd at fôr yr Araba islaw llethrau Pisga.