9 Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant.
10 Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn.”
11 Daethoch chwi yn agos, a sefyll wrth droed y mynydd, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân hyd entrych y nefoedd; ac yr oedd yno dywyllwch, cwmwl a chaddug.
12 Llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân; ond nid oeddech chwi'n gweld unrhyw ffurf, dim ond clywed llais.
13 Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen.
14 Yr adeg honno gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi ddysgu ichwi'r deddfau a'r gorchmynion, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr oeddech yn mynd iddi i'w meddiannu.
15 Gan na welsoch unrhyw ffurf, y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân yn Horeb,