2 Gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw gyfamod â ni yn Horeb.
3 Nid â'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â ni i gyd sy'n fyw yma heddiw.
4 Llefarodd yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb â chwi ar y mynydd o ganol y tân.
5 Yr adeg honno yr oeddwn i yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD, oherwydd yr oeddech chwi yn ofni'r tân, ac nid aethoch i fyny i'r mynydd. Dyma a ddywedodd:
6 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
7 “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.
8 “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr o dan y ddaear;