21 “Na chwennych wraig dy gymydog, na dymuno cael tŷ dy gymydog, na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”
22 Llefarodd yr ARGLWYDD y geiriau hyn â llais uchel wrth eich holl gynulliad ar y mynydd o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch, ac nid ychwanegodd ddim atynt. Yna ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi i mi.
23 Pan glywsoch y llais o ganol y tywyllwch, a'r mynydd ar dân, yna daeth penaethiaid eich llwythau a'ch henuriaid ataf,
24 a dywedasoch, “Dangosodd yr ARGLWYDD ein Duw inni ei ogoniant a'i fawredd, ac fe glywsom ei lais o ganol y tân; heddiw yr ydym yn gweld y gall bod meidrol fyw er i Dduw lefaru wrtho.
25 Yn awr, pam y byddwn ni farw? Bydd y tân mawr hwn yn sicr o'n difa, a byddwn farw, os bydd inni glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw eto.
26 A glywodd unrhyw un lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel yr ydym ni wedi ei glywed, a byw?
27 Dos di, a gwrando ar y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw, ac yna mynega wrthym y cyfan a lefarodd yr ARGLWYDD ein Duw wrthyt; fe wrandawn ninnau ac ufuddhau.”