8 “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr o dan y ddaear;
9 nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,
10 ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
11 “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
12 “Cadw'r dydd Saboth yn gysegredig, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.
13 Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,
14 ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun.