1 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu, ac yn gyrru allan o'th flaen lawer o genhedloedd, sef Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, saith o genhedloedd sy'n fwy niferus a chryfach na thi;
2 a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn eu darostwng o'th flaen, a thithau'n ymosod arnynt, yr wyt i'w difa'n llwyr. Paid â gwneud cyfamod â hwy na dangos trugaredd tuag atynt.
3 Paid â gwneud cytundeb priodas â hwy trwy roi dy ferched i'w meibion a chymryd eu merched yn wragedd i'th feibion,
4 oherwydd fe wnânt i'th blant droi oddi wrthyf ac addoli duwiau eraill, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyt ac yn dy ddifa ar unwaith.
5 Ond fel hyn yr ydych i wneud iddynt: tynnu i lawr eu hallorau, dinistrio eu colofnau, a malurio eu pyst Asera a llosgi eu delwau yn y tân.