11 Gofalwch na fyddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau a'i ddeddfau, yr wyf yn eu gorchymyn ichwi heddiw.
12 Pan fyddwch wedi bwyta a chael digon, ac adeiladu tai braf i fyw ynddynt,
13 a phan fydd eich gwartheg a'ch defaid yn cynyddu, a digon o arian ac aur gennych, a'ch holl eiddo yn cynyddu,
14 yna peidiwch ag ymffrostio ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
15 Ef oedd yn eich arwain trwy'r anialwch mawr a dychrynllyd, lle'r oedd seirff gwenwynig a sgorpionau, a thrwy dir sych heb ddim dŵr, lle y gwnaeth i ddŵr darddu allan i chwi o'r graig galed.
16 Porthodd chwi hefyd yn yr anialwch â manna, nad oedd eich hynafiaid yn gwybod beth oedd, a hynny er mwyn eich darostwng a'ch profi, fel y byddai'n dda arnoch yn y diwedd.
17 Os dywedwch, “Ein nerth ein hunain a chryfder ein dwylo a ddaeth â'r cyfoeth hwn inni”,