4 Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn.
5 Ystyriwch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu fel y mae tad yn disgyblu ei fab.
6 Cadwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i barchu;
7 oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod â chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau dŵr, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd;
8 gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a mêl;
9 gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd.
10 Wedi ichwi fwyta a chael digon, byddwch yn bendithio'r ARGLWYDD eich Duw am y wlad dda y mae'n ei rhoi ichwi.