11 Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod,
12 a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd.”
13 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Gwelais fod y bobl hyn yn bobl ystyfnig.
14 Gad lonydd imi, er mwyn imi eu difa a dileu eu henw o dan y nefoedd, a'th wneud di'n genedl gryfach a mwy niferus na hwy.”
15 Yna trois a dod i lawr o'r mynydd â dwy lechen y cyfamod yn fy nwylo, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân.
16 Gwelais eich bod wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw trwy wneud i chwi eich hunain ddelw dawdd ar ffurf llo, a rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi.
17 Cydiais yn y ddwy lechen a'u taflu o'm dwylo a'u torri yn eich gŵydd.