2 Y maent yn ddynion mawr a thal, disgynyddion yr Anacim; fe wyddost ti amdanynt, oherwydd clywaist ddweud, “Pwy a saif o flaen yr Anacim?”
3 Ond deall di heddiw fod yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n croesi o'th flaen, yn dân ysol, ac y bydd ef yn eu difa a'u darostwng o'th flaen. Byddi dithau'n eu gyrru allan ac yn eu difa yn sydyn, fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrthyt.
4 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi eu gyrru allan o'th flaen, paid â dweud, “Daeth yr ARGLWYDD â mi i feddiannu'r wlad hon oherwydd fy nghyfiawnder.” Ond o achos drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD yn eu gyrru allan o'th flaen.
5 Nid oherwydd dy gyfiawnder a'th uniondeb yr wyt yn mynd i feddiannu eu gwlad, ond oherwydd drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru allan o'th flaen, ac er mwyn cadarnhau'r gair a dyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob.
6 Felly ystyria di nad o achos dy gyfiawnder y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi iti'r wlad dda hon i'w meddiannu; yn wir, pobl ystyfnig ydych.
7 Cofia, a phaid ag anghofio, iti ennyn dig yr ARGLWYDD dy Dduw yn yr anialwch; yr wyt wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y daethost allan o wlad yr Aifft nes iti ddod i'r lle hwn.
8 Digiasoch yr ARGLWYDD yn Horeb, ac yr oedd mor ddig nes iddo fwriadu eich difa.