7 Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tŷ'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd;
8 rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda.
9 A dyma'r rhestr: dysglau aur, tri deg; dysglau arian, mil; thuserau, dau ddeg a naw;
10 cawgiau aur, tri deg; cawgiau arian, pedwar cant a deg; llestri eraill, mil.
11 Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar â'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.