Esra 2 BCN

Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud

1 Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd i Fabilon gan Nebuchadnesar brenin Babilon; daethant yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.

2 Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum a Baana. Rhestr pobl Israel:

3 teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;

4 teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;

5 teulu Ara, saith gant saith deg a phump;

6 teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;

7 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;

8 teulu Sattu, naw cant pedwar deg a phump;

9 teulu Saccai, saith gant chwe deg;

10 teulu Bani, chwe chant pedwar deg a dau;

11 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri;

12 teulu Asgad, mil dau gant dau ddeg a dau;

13 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a chwech;

14 teulu Bigfai, dwy fil pum deg a chwech;

15 teulu Adin, pedwar cant pum deg a phedwar;

16 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;

17 teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri;

18 teulu Jora, cant a deuddeg;

19 teulu Hasum, dau gant dau ddeg a thri;

20 teulu Gibbar, naw deg a phump;

21 teulu Bethlehem, cant dau ddeg a thri.

22 Gwŷr Netoffa, pum deg a chwech;

23 gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth.

24 Teulu Asmafeth, pedwar deg a dau;

25 teulu Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;

26 teulu Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un.

27 Gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau;

28 gwŷr Bethel ac Ai, dau gant dau ddeg a thri.

29 Teulu Nebo, pum deg a dau;

30 teulu Magbis, cant pum deg a phedwar;

31 teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;

32 teulu Harim, tri chant dau ddeg;

33 teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg a phump;

34 teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;

35 teulu Senaa, tair mil chwe chant tri deg.

36 Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;

37 teulu Immer, mil pum deg a dau;

38 teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;

39 teulu Harim, mil un deg a saith.

40 Y Lefiaid: teulu Jesua a Cadmiel, o deulu Hodafia, saith deg a phedwar.

41 Y cantorion: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.

42 Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita, a Sobai, cant tri deg a naw i gyd.

43 Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth,

44 Ceros, Siaha, Padon,

45 Lebana, Hagaba, Accub,

46 Hagab, Salmai, Hanan,

47 Gidel, Gahar, Reaia,

48 Resin, Necoda, Gassam,

49 Ussa, Pasea, Besai,

50 Asna, Meunim, Neffusim,

51 Bacbuc, Hacuffa, Harhur,

52 Basluth, Mehida, Harsa,

53 Barcos, Sisera, Tama,

54 Neseia, a Hatiffa.

55 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Peruda,

56 Jala, Darcon, Gidel,

57 Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Ami.

58 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.

59 Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:

60 teuluoedd Delaia, Tobeia, a Necoda, chwe chant pum deg a dau.

61 Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

62 Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,

63 a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.

64 Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg,

65 heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau.

66 Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,

67 pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.

68 Pan ddaethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tŷ Dduw ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu.

69 Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.

70 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem, a'r cantorion, y porthorion a gweision y deml yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn eu trefi eu hunain.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10