Esra 10 BCN

Cynllun i Ddiddymu Priodasau Cymysg

1 Tra oedd Esra'n gweddïo yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tŷ Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wŷr, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl.

2 Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, “Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.

3 Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod â'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn ôl cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith.

4 Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol.”

5 Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid ac i holl Israel addo hyn, a gwnaethant hwythau addewid.

6 Aeth Esra o dŷ'r Arglwydd i ystafell Johanan fab Eliasib, ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr am ei fod yn dal i alaru am gamwedd y rhai a ddaeth o'r gaethglud.

7 Yna anfonwyd neges trwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i bawb a fu yn y gaethglud ymgynnull yn Jerwsalem,

8 a byddai pob un na ddôi o fewn tridiau ar wŷs y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.

9 O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wŷr Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgwâr o flaen tŷ Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd.

10 Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron.

11 Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron.”

12 Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.

13 Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

14 Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.”

15 Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad.

16 Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater,

17 ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.

Y Rhai oedd wedi Priodi Merched Estron

18 Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.

19 Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.

20 O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.

21 O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia.

22 O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa.

23 O'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser.

24 O'r cantorion: Eliasib. O'r porthorion: Salum, Telem ac Uri.

25 O Israel, o feibion Paros: Rameia, Jeseia, Malcheia, Miamin, Eleasar, Malcheia a Benaia.

26 O feibion Elam: Mataneia, Sechareia, Jehel, Abdi, Jeremoth ac Eleia.

27 O feibion Sattu: Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad ac Asisa.

28 O feibion Bebai: Jehohanan, Hananeia, Sabai ac Athlai.

29 O feibion Bani: Mesulam, Maluch, Adaia, Jasub, Seal a Ramoth.

30 O feibion Pahath-moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, Binnui a Manasse.

31 O feibion Harim: Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,

32 Benjamin, Maluch a Semareia.

33 O feibion Hasum: Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse a Simei.

34 O feibion Bani: Maadai, Amram, Uel,

35 Benaia, Bedeia, Celu,

36 Faneia, Meremoth, Eliasib,

37 Mataneia, Matenai, Jasau,

38 Bani, Binnui, Simei,

39 Selemeia, Nathan, Adaia,

40 Machnadebai, Sasai, Sarai,

41 Asareel, Selemeia, Semareia,

42 Salum, Amareia a Joseff.

43 O feibion Nebo: Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadue, Joel a Benaia.

44 Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi merched estron, ond troesant hwy allan, yn wragedd a phlant.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10