Esra 4 BCN

Gwrthwynebu Ailadeiladu'r Deml

1 Pan glywodd gelynion Jwda a Benjamin fod y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud yn adeiladu teml i ARGLWYDD Dduw Israel,

2 daethant at Sorobabel a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi, oherwydd yr ydym ni yn addoli eich Duw fel chwithau, ac iddo ef yr ydym wedi aberthu er amser Esarhadon brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”

3 Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a gweddill pennau-teuluoedd Israel: “Ni chewch chwi ran yn y gwaith o adeiladu tŷ i'n Duw; ni yn unig sydd i adeiladu i ARGLWYDD Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”

4 Yna dechreuodd pobl y wlad ddigalonni pobl Jwda a pheri iddynt ofni adeiladu;

5 a holl ddyddiau Cyrus brenin Persia hyd at deyrnasiad Dareius brenin Persia cyflogasant gynghorwyr llys yn eu herbyn i ddrysu eu bwriad.

Gwrthwynebu Ailadeiladu Jerwsalem

6 Yn nechrau teyrnasiad Ahasferus gwnaethant gyhuddiad ysgrifenedig yn erbyn preswylwyr Jwda a Jerwsalem.

7 Hefyd yn amser Artaxerxes ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel a'r gweddill o'u cefnogwyr at Artaxerxes brenin Persia; yr oedd y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, a dyma'i gynnwys mewn Aramaeg.

8 Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifennodd y llythyr hwn at Artaxerxes y brenin ynglŷn â Jerwsalem:

9 “Oddi wrth y rhaglaw Rehum a'r ysgrifennydd Simsai a'r gweddill o'u cefnogwyr, y barnwyr, y penaethiaid, y goruchwylwyr, y swyddogion; hefyd pobl Erech a Babilon, a'r Elamitiaid o Susa,

10 a phawb arall a alltudiodd Asnappar fawr ac enwog a'u gosod yn nhref Samaria ac yng ngweddill talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.”

11 Yn awr dyma gynnwys y llythyr a anfonasant ato: “I'r Brenin Artaxerxes oddi wrth dy ddeiliaid, pobl talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.

12 Bydded hysbys i'r brenin fod yr Iddewon a ddaeth atom oddi wrthyt wedi cyrraedd Jerwsalem; y maent yn ailgodi'r ddinas wrthryfelgar a drwg, yn cyfannu'r muriau ac yn atgyweirio'r sylfeini.

13 Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os ailadeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni thalant na threth, na theyrnged, na tholl; a bydd hyn yn sicr o amharu ar les y brenin.

14 Felly, am ein bod ni yn cael ein cynnal gan lys y brenin, ac am nad yw'n weddus i ni fod yn dystion o'r amarch hwn tuag at y brenin, yr ydym yn anfon gair at y brenin,

15 er mwyn iti chwilio yn llyfr cofnodion dy ragflaenwyr. Fe weli oddi wrth lyfr y cofnodion mai dinas wrthryfelgar fu hon, andwyol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod gwrthryfel yn nodwedd arni ers amser maith. Dyna pam y dinistriwyd y ddinas.

16 Yr ydym yn hysbysu'r brenin, os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni fydd gennyt diriogaeth yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.”

17 Dyma ateb y brenin: “At Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a'r gweddill o'u cefnogwyr sy'n byw yn Samaria ac ym mhob rhan o dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cyfarchion!

18 Fe gyfieithwyd y llythyr a anfonasoch a'i ddarllen yn fy ngŵydd.

19 Ar fy ngorchymyn gwnaethpwyd ymchwiliad, a darganfod i'r ddinas hon wrthryfela yn erbyn brenhinoedd ers amser maith, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi.

20 Bu brenhinoedd cryfion yn teyrnasu dros Jerwsalem a thros holl dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a rhoddwyd iddynt dreth, teyrnged a tholl.

21 Felly gorchmynnwch i'r dynion hyn beidio ag ailadeiladu'r ddinas nes cael caniatâd gennyf fi.

22 Gofalwch beidio â bod yn esgeulus yn hyn o beth, rhag i'r frenhiniaeth gael niwed pellach.”

23 Yna, pan ddarllenwyd copi o lythyr Artaxerxes i Rehum a Simsai yr ysgrifennydd a'u cefnogwyr, aethant ar frys at yr Iddewon yn Jerwsalem a thrwy nerth braich eu rhwystro rhag gweithio.

24 Felly yr ataliwyd y gwaith ar dŷ Dduw yn Jerwsalem; a bu'n sefyll hyd ail flwyddyn teyrnasiad Dareius brenin Persia.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10