Esra 5 BCN

Ailddechrau Adeiladu'r Deml

1 Ond wedi i'r proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, broffwydo yn enw Duw Israel i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem,

2 dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ailadeiladu tŷ Dduw yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi Duw gyda hwy yn eu cefnogi.

3 Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, “Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?”

4 Gofynasant hefyd, “Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?”

5 Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater.

6 Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius.

7 A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8 Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tŷ'r Duw mawr yn cael ei adeiladu â cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.

9 Yna gofynasom i'r henuriaid, ‘Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?’

10 Gofynasom hefyd iddynt am eu henwau fel y medrem gofnodi enwau eu harweinwyr a rhoi gwybod i ti.

11 A dyma'r ateb a gawsom: ‘Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tŷ a godwyd lawer o flynyddoedd yn ôl; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen.

12 Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tŷ hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon.

13 Ond ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, rhoes Cyrus brenin Babilon orchymyn i ailadeiladu'r tŷ hwn.

14 Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i dŷ Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i ŵr o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.

15 Dywedodd wrtho, “Cymer y llestri yma, a dos â hwy i'r deml sydd yn Jerwsalem, a bydded i dŷ Dduw gael ei adeiladu ar ei hen safle.”

16 Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’

17 Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglŷn â'r mater.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10