Esra 9 BCN

Priodasau Cymysg yn Poeni Esra

1 Wedi hyn daeth y swyddogion ataf a dweud, “Nid yw pobl Israel, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth bobloedd y gwledydd nac oddi wrth ffieidd-dra'r Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Amoriaid.

2 Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â phobloedd y gwledydd; a'r prif droseddwyr yn y camwedd hwn yw'r swyddogion a'r penaethiaid.”

3 Pan glywais hyn rhwygais fy nillad a'm mantell, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn.

4 Ac oherwydd camwedd y rheini oedd wedi bod yn y gaethglud, daeth ataf bawb oedd yn ofni geiriau Duw Israel, ac eisteddais innau yno'n syn hyd offrwm y prynhawn.

5 Ar adeg offrwm y prynhawn codais o'm cyflwr darostyngedig, a'm dillad a'm mantell wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw,

6 a dweud: “O fy Nuw, yr wyf mewn gwaradwydd, ac y mae cywilydd mawr arnaf godi fy wyneb atat, O Dduw, oherwydd y mae'n camweddau wedi codi'n uwch na'n pennau, a'n heuogrwydd wedi cynyddu hyd y nefoedd.

7 O ddyddiau ein hynafiaid hyd yn awr, mawr fu ein trosedd, ac o achos ein camweddau fe'n rhoed ni, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, yng ngafael brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, i anrhaith ac i warth, fel y mae heddiw.

8 Ond yn awr, am ennyd, bu'r ARGLWYDD ein Duw yn raslon tuag atom a gadael inni weddill a rhoi sicrwydd inni yn ei le sanctaidd, er mwyn iddo oleuo ein llygaid a'n hadfywio am ychydig yn ein caethiwed.

9 Er mai caethion ydym, ni chefnodd ein Duw arnom yn ein caethiwed. Parodd inni gael caredigrwydd gan frenhinoedd Persia i'n hadfywio er mwyn inni adnewyddu tŷ ein Duw ac ailgodi ei adfeilion, a rhoddodd inni amddiffynfa yn Jwda a Jerwsalem.

10 Ac yn awr, ein Duw, beth a ddywedwn ar ôl hyn? Oherwydd yr ydym wedi cefnu ar dy gyfreithiau,

11 a orchmynnaist trwy dy weision y proffwydi, gan ddweud, ‘Gwlad halogedig yw'r wlad yr ydych yn mynd i'w meddiannu, wedi ei halogi gan ffieidd-dra pobloedd y gwledydd, sy'n ei llenwi â'u haflendid o un cwr i'r llall.

12 Felly peidiwch â rhoi eich merched i'w meibion, na chymryd eu merched i'ch plant; a pheidiwch byth â cheisio eu heddwch na'u lles. Felly y byddwch yn gryf, ac yn mwynhau braster y wlad, a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch plant am byth.’

13 Ac ar ôl y cwbl a ddioddefasom am ein drygioni a'n trosedd mawr—er i ti, ein Duw, roi i ni gosb lai nag a haeddai ein drwgweithredoedd, a rhoi i ni y waredigaeth hon—

14 a dorrwn ni dy gyfreithiau unwaith eto ac ymgyfathrachu â'r bobloedd ffiaidd yma? Oni fyddet ti'n digio wrthym a'n dinistrio, fel na byddai gweddill na gwaredigaeth?

15 ARGLWYDD Dduw Israel, cyfiawn wyt ti; yr ydym ni yma heddiw yn weddill a waredwyd; yr ydym yn dy ŵydd yn ein heuogrwydd, er na all neb sefyll o'th flaen felly.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10