Esra 6 BCN

Ailddarganfod Gorchymyn Cyrus

1 Yna, ar orchymyn y Brenin Dareius, chwiliwyd yn yr archifau ym Mabilon lle cedwid y dogfennau.

2 Ac ym mhalas Ecbatana yn nhalaith Media cafwyd sgrôl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:

3 “Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad gorchmynnodd y Brenin Cyrus fel hyn am dŷ Dduw yn Jerwsalem: Ailadeilader y tŷ yn lle i aberthu ac i ddwyn poethoffrymau.

4 Ei uchder fydd trigain cufydd a'i led trigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig mawr ac un rhes o goed newydd; taler y gost o'r drysorfa frenhinol.

5 Hefyd, dychweler i'r deml yn Jerwsalem lestri aur ac arian tŷ Dduw, a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon; dychweler pob un i'w le priodol yn nhŷ Dduw.”

6 A dyfarniad y Brenin Dareius oedd: “Yn awr, Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'ch cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cadwch draw oddi yno;

7 peidiwch ag ymyrryd â gwaith tŷ Dduw; gadewch i bennaeth yr Iddewon a'u henuriaid ailgodi tŷ Dduw ar ei hen safle.

8 Ar fy ngorchymyn i, fel hyn yr ydych i gydweithredu â henuriaid yr Iddewon i ailadeiladu tŷ Dduw: taler yn llawn ac yn ddiymdroi i'r dynion hyn dreth talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates allan o'r drysorfa frenhinol.

9 Rhodder iddynt bob dydd yn ddi-feth beth bynnag sy'n angenrheidiol i aberthu i Dduw'r nefoedd—teirw, hyrddod, defaid, gwenith, halen, gwin ac olew—

10 yn ôl gofynion yr offeiriaid yn Jerwsalem, fel y dygont ebyrth cymeradwy i Dduw'r nefoedd a gweddïo dros y brenin a'i feibion.

11 Ac yr wyf yn gorchymyn, os bydd i unrhyw un ymyrryd â'r datganiad hwn, fod trawst i'w dynnu o'i dŷ a'i godi, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei gartref i'w droi'n domen.

12 A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd â hyn neu'n dinistrio tŷ'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl.”

Cysegru'r Deml

13 Yna gwnaeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr yn union fel yr oedd y Brenin Dareius wedi gorchymyn.

14 Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn ôl gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.

15 Gorffennwyd y tŷ hwn ar y trydydd o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.

16 A chysegrwyd tŷ Dduw mewn llawenydd gan yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud.

17 Wrth gysegru tŷ Dduw, aberthwyd cant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg bwch gafr, yn ôl nifer llwythau Israel, yn aberth dros bechod ar ran holl Israel.

18 Trefnwyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau a'r Lefiaid yn eu hadrannau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses.

Cadw'r Pasg

19 Ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf cadwodd y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud y Pasg.

20 Am fod pob un o'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi ei buro'i hun, a'u bod i gyd yn bur, aberthwyd y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u cyd-offeiriaid a hwy eu hunain.

21 Bwytawyd y Pasg gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud a chan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid y bobloedd oddi amgylch ac wedi dod atynt i geisio ARGLWYDD Dduw Israel.

22 Ac am saith diwrnod cadwasant ŵyl y Bara Croyw mewn llawenydd, oherwydd i'r ARGLWYDD beri llawenydd iddynt trwy droi calon brenin Asyria tuag atynt i'w cynorthwyo yng ngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10