1 Tra oedd Esra'n gweddïo yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tŷ Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wŷr, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl.
2 Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, “Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.
3 Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod â'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn ôl cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith.
4 Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol.”