1 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd y bobl fel un gŵr i Jerwsalem.
2 A dechreuodd Jesua fab Josadac a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i frodyr, ailadeiladu allor Duw Israel er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gŵr Duw.
3 Er eu bod yn ofni'r bobloedd oddi amgylch, codasant yr allor yn ei lle, ac aberthu arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD fore a hwyr.
4 Yr oeddent yn dathlu gŵyl y Pebyll fel yr oedd yn ysgrifenedig, ac yn aberthu'n ddyddiol y nifer priodol o boethoffrymau ar gyfer pob dydd.