2 A dechreuodd Jesua fab Josadac a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i frodyr, ailadeiladu allor Duw Israel er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gŵr Duw.
3 Er eu bod yn ofni'r bobloedd oddi amgylch, codasant yr allor yn ei lle, ac aberthu arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD fore a hwyr.
4 Yr oeddent yn dathlu gŵyl y Pebyll fel yr oedd yn ysgrifenedig, ac yn aberthu'n ddyddiol y nifer priodol o boethoffrymau ar gyfer pob dydd.
5 Ar ôl hyn yr oeddent yn aberthu'r poethoffrymau cyson, a'r rhai ar gyfer y newydd-loerau a holl wyliau penodedig yr ARGLWYDD, a'r holl aberthau a roddid yn wirfoddol i'r ARGLWYDD.
6 Dechreusant aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd sylfaen teml yr ARGLWYDD wedi ei gosod.
7 Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod ac olew i'r Sidoniaid a'r Tyriaid i ddod â chedrwydd dros y môr o Lebanon i Jopa trwy ganiatâd Cyrus brenin Persia.
8 Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddynt ddychwelyd i dŷ Dduw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ar y gwaith gyda'r gweddill o'u brodyr, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem; a phenodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith tŷ'r ARGLWYDD.