3 Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, “Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?”
4 Gofynasant hefyd, “Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?”
5 Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater.
6 Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius.
7 A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!
8 Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tŷ'r Duw mawr yn cael ei adeiladu â cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.
9 Yna gofynasom i'r henuriaid, ‘Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?’