1 Ar ôl hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, daeth Esra i fyny o Fabilon; hwn oedd Esra fab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
2 fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
3 fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4 fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5 fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.
6 Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.