14 Oherwydd fe'th anfonir gan y brenin a'i saith gynghorwr i wneud arolwg o Jwda a Jerwsalem ynglŷn â chyfraith dy Dduw, sydd dan dy ofal.
15 Dygi'r arian a'r aur a roddwyd yn wirfoddol gan y brenin a'i gynghorwyr i Dduw Israel, sydd â'i drigfan yn Jerwsalem,
16 a hefyd yr holl arian a'r aur a gei di trwy holl dalaith Babilon, ac offrymau gwirfoddol y bobl a'r offeiriaid a roddwyd at dŷ eu Duw yn Jerwsalem.
17 Â'r arian yma gofala brynu teirw, hyrddod ac ŵyn, gyda'u bwydoffrwm a'u diodoffrwm, a'u haberthu ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
18 Â gweddill yr arian a'r aur cei di a'th gymrodyr wneud fel y gwelwch orau, yn ôl ewyllys eich Duw.
19 Am y llestri a roddwyd i ti at wasanaeth tŷ dy Dduw, gosod hwy o'i flaen yn Jerwsalem.
20 A pha beth bynnag arall sy'n angenrheidiol i dŷ dy Dduw, ac y disgwylir i ti ei roi, rho ef o storfa'r brenin.