3 fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4 fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5 fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.
6 Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.
7 Yn y seithfed flwyddyn i'r Brenin Artaxerxes, dychwelodd i Jerwsalem gyda rhai o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r cantorion a'r porthorion a gweision y deml;
8 a chyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis yn seithfed flwyddyn y brenin.
9 Yr oedd wedi cychwyn ar y daith o Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis; yr oedd Esra wedi cael ffafr gan ei Dduw,