1 Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg.
2 Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.
3 Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud,
4 “Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch â Josua a'r Israeliaid.”
5 Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni.