1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir.
2 Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas.”
3 Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos.
4 Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch â mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod.
5 Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agosáu at y ddinas, a phan ddônt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen.
6 Fe ddônt hwythau ar ein hôl nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt.
7 Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw.
8 Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi â thân. Gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi.”
9 Wedi i Josua eu hanfon ymaith, aethant i guddfan a'u gosod eu hunain rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o Ai. Treuliodd Josua'r noson honno gyda'r fyddin.
10 Cododd Josua a'r henuriaid yn fore drannoeth a chynnull y fyddin a'i harwain tuag Ai.
11 Aeth yr holl fyddin oedd gydag ef i fyny, a nesáu at ymyl y dref a gwersyllu i'r gogledd iddi, gyda dyffryn rhyngddynt hwy ac Ai.
12 Yr oedd wedi dewis tua phum mil o wŷr ac wedi eu rhoi i guddio rhwng Bethel ac Ai i'r gorllewin o'r dref.
13 Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd Josua y noson honno ar lawr y dyffryn.
14 Pan welodd brenin Ai hwy, brysiodd ef a dynion y dref yn gynnar yn y bore i fynd allan gyda'r holl fyddin i gyfarfod Israel mewn brwydr ar lecyn yn wynebu'r Araba, heb wybod bod milwyr yn llechu y tu ôl i'r dref.
15 Ffodd Josua a'r Israeliaid oll i gyfeiriad yr anialwch, fel pe baent wedi eu taro ganddynt.
16 Galwyd yr holl bobl oedd yn y dref i ymlid ar eu hôl; ac wrth iddynt ymlid ar ôl Josua, fe'u denwyd i ffwrdd o'r dref.
17 Nid oedd neb ar ôl yn Ai na Bethel heb fynd allan ar ôl Israel; gadawsant y dref yn benagored a mynd i ymlid yr Israeliaid.
18 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag Ai, oherwydd yr wyf am roi'r dref yn dy law.”
19 Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim.
20 Pan drodd dynion Ai ac edrych yn eu hôl, gwelsant fwg y dref yn esgyn i'r awyr, ond ni allent ffoi nac yma nac acw, gan fod y fyddin a fu'n ffoi tua'r anialwch wedi troi i wynebu ei herlidwyr;
21 oherwydd pan welodd Josua a holl Israel fod y milwyr cudd wedi cipio'r dref, a bod mwg yn codi ohoni, troesant yn eu hôl ac ymosod ar ddynion Ai.
22 Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc.
23 Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua.
24 Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo â'r cleddyf.
25 Nifer y rhai a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd deuddeng mil, yn wŷr a gwragedd, sef holl boblogaeth Ai.
26 Ni thynnodd Josua'n ôl y llaw oedd yn dal y waywffon nes difa holl drigolion Ai.
27 Dim ond y gwartheg ac anrhaith y dref a gymerodd yr Israeliaid yn ysbail iddynt eu hunain, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua.
28 Llosgodd Josua Ai a'i gadael yn domen barhaol a erys yn ddiffaith hyd heddiw.
29 Crogodd frenin Ai ar grocbren hyd yr hwyr, ac ar fachlud yr haul gorchmynnodd Josua iddynt dynnu ei gorff i lawr o'r crocbren a'i daflu ger y fynedfa i'r dref; codwyd carnedd fawr o gerrig drosto, sydd yno hyd heddiw.
30 Yna cododd Josua allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ym Mynydd Ebal.
31 Fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r Israeliaid, ac fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu o gerrig heb eu naddu na'u trin â haearn. Ac offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau.
32 Yno yng ngŵydd yr Israeliaid ysgrifennodd ar feini gopi o gyfraith Moses.
33 Yr oedd Israel gyfan—ei henuriaid, ei swyddogion, a'i barnwyr—yn sefyll o boptu'r arch, gerbron yr offeiriaid, sef y Lefiaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD. Yr oedd estron a brodor fel ei gilydd yno, hanner ohonynt ar bwys Mynydd Garisim, a hanner ar bwys Mynydd Ebal, fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn yn y dechrau ar gyfer bendithio pobl Israel.
34 Wedi hynny darllenodd Josua holl eiriau'r gyfraith, y fendith a'r felltith, fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35 Ni adawodd Josua air o'r cyfan a orchmynnodd Moses heb ei ddarllen gerbron holl gynulleidfa Israel, gan gynnwys y gwragedd a'r plant a'r estron oedd yn aros yn eu mysg.