1 Pan glywodd yr holl frenhinoedd y tu hwnt i'r Iorddonen, yn y mynydd-dir a'r Seffela ac arfordir y Môr Mawr wrth Lebanon, yn Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid a Jebusiaid,
2 daethant ynghyd fel un i ryfela yn erbyn Josua ac Israel.
3 Pan glywodd trigolion Gibeon yr hyn yr oedd Josua wedi ei wneud i Jericho ac Ai,
4 dyma hwythau'n gweithredu'n gyfrwys. Aethant a darparu bwyd, a llwytho'u hasynnod â hen sachau, a hen wingrwyn tyllog wedi eu trwsio.
5 Rhoesant am eu traed hen sandalau wedi eu clytio, a hen ddillad amdanynt; a bara wedi sychu a llwydo oedd eu bwyd.
6 Yna daethant at Josua i wersyll Gilgal, a dweud wrtho ef a phobl Israel, “Yr ydym wedi dod o wlad bell; felly gwnewch gyfamod â ni'n awr.”
7 Ond meddai pobl Israel wrth yr Hefiaid, “Efallai eich bod yn byw yn ein hymyl, ac os felly, sut y gwnawn ni gyfamod â chwi?”
8 Dywedasant wrth Josua, “Dy weision di ydym.” Pan ofynnodd Josua iddynt, “Pwy ydych, ac o ble y daethoch?”,
9 atebasant, “Y mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn o achos enw'r ARGLWYDD dy Dduw; oblegid clywsom sôn amdano ef, ac am y cwbl a wnaeth yn yr Aifft,
10 ac i ddau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen, Sihon brenin Hesbon ac Og brenin Basan, a drigai yn Astaroth.
11 Am hynny dywedodd ein henuriaid a holl drigolion ein gwlad wrthym, ‘Cymerwch fwyd ar gyfer y daith ac ewch i'w cyfarfod, a dywedwch wrthynt, “Eich gweision ydym; felly'n awr gwnewch gyfamod â ni.” ’
12 Dyma'n bara; yr oedd yn boeth pan oeddem yn darparu i fynd oddi cartref, y diwrnod yr oeddem yn cychwyn i ddod atoch. Edrychwch fel y mae'n awr wedi sychu a llwydo.
13 A dyma'r gwingrwyn oedd yn newydd pan lanwasom hwy; edrychwch, y maent wedi rhwygo. A dyma'n dillad a'n sandalau wedi treulio gan bellter mawr y daith.”
14 Cymerodd pobl Israel beth o'u bwyd heb ymgynghori â'r ARGLWYDD.
15 Gwnaeth Josua heddwch â hwy, a gwneud cyfamod i'w harbed, a thyngodd arweinwyr y gynulleidfa iddynt.
16 Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod â hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.
17 Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.
18 Ond nid ymosododd yr Israeliaid arnynt, oherwydd bod arweinwyr y gynulleidfa wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, er i'r holl gynulleidfa rwgnach yn erbyn yr arweinwyr.
19 Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, “Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd â hwy.
20 Dyma a wnawn iddynt: arbedwn eu bywydau, rhag i ddigofaint ddisgyn arnom oherwydd y llw a dyngasom.”
21 Ac meddai'r arweinwyr wrthynt, “Cânt fyw, er mwyn iddynt dorri coed a thynnu dŵr i'r holl gynulleidfa.” Cytunodd yr holl gynulleidfa â'r hyn a ddywedodd yr arweinwyr.
22 Galwodd Josua arnynt a dweud wrthynt, “Pam y bu ichwi ein twyllo a honni eich bod yn byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrthym, a chwithau'n byw yn ein hymyl?
23 Yn awr yr ydych dan y felltith hon: bydd gweision o'ch plith yn barhaol yn torri coed ac yn tynnu dŵr ar gyfer tŷ fy Nuw.”
24 Atebasant Josua fel hyn: “Fe ddywedwyd yn glir wrthym ni, dy weision, fod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i'w was Moses roi i chwi y wlad gyfan, a distrywio o'ch blaen ei holl drigolion; am hynny yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes o'ch plegid, a dyna pam y gwnaethom hyn.
25 Yr ydym yn awr yn dy law; gwna inni yr hyn yr wyt ti'n ei dybio sy'n iawn.”
26 A dyna a wnaeth Josua iddynt y diwrnod hwnnw: fe'u hachubodd o law'r Israeliaid rhag iddynt eu lladd,
27 a'u gosod i dorri coed ac i dynnu dŵr i'r gynulleidfa ar gyfer allor yr ARGLWYDD yn y lle a ddewisai ef; ac felly y maent hyd heddiw.