Josua 14 BCN

Rhannu'r Tir i'r Gorllewin o'r Iorddonen

1 Dyma'r tiroedd a gafodd yr Israeliaid yn etifeddiaeth yng ngwlad Canaan oddi ar law yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun, a'r pennau-teuluoedd ymysg llwythau'r Israeliaid.

2 Trwy fwrw coelbren y rhoddwyd eu hetifeddiaeth i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses;

3 oherwydd yr oedd Moses wedi rhoi eu hetifeddiaeth i'r ddau lwyth a hanner y tu hwnt i'r Iorddonen. Ond ni roddodd etifeddiaeth yn eu plith i'r Lefiaid.

4 Yr oedd disgynyddion Joseff yn ddau lwyth, Manasse ac Effraim. Ni roddwyd cyfran yn y tir i'r Lefiaid ac eithrio trefi i fyw ynddynt a phorfeydd ar gyfer eu gyrroedd a'u preiddiau.

5 Rhannodd yr Israeliaid y tir yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Rhoi Hebron yn Etifeddiaeth i Caleb

6 Daeth llwyth Jwda gerbron Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad wrtho, “Gwyddost yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr Duw amdanom ni'n dau yn Cades-barnea.

7 Deugain oed oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea i ysbïo'r wlad. Deuthum ag adroddiad diragfarn yn ôl iddo.

8 Er bod fy nghymdeithion wedi digalonni'r bobl, fe lwyr ddilynais i yr ARGLWYDD fy Nuw;

9 ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: ‘Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.’

10 Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed.

11 Yr wyf mor gryf heddiw ag ar y diwrnod yr anfonodd Moses fi; y mae fy nerth cystal yn awr â'r adeg honno i ryfela ac i arwain byddin.

12 Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.”

13 Bendithiodd Josua ef a rhoddodd Hebron yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

14 Dyna pam y mae Hebron yn feddiant i Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad hyd heddiw, am, iddo lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

15 Enw Hebron gynt oedd Ciriath-arba, ar ôl Arba, prif ddyn yr Anacim. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24