Josua 15 BCN

Rhandir Llwyth Jwda

1 Yr oedd rhandir llwyth Jwda yn ôl eu tylwythau yn ymestyn at derfyn Edom, yn anialwch Sin, ar gwr deheuol y Negef.

2 Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y Môr Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef,

3 ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.

4 Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y môr. Hwn oedd eu terfyn deheuol.

5 Y terfyn i'r dwyrain oedd y Môr Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y môr, ger aber yr Iorddonen,

6 i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben.

7 Yna âi'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn â rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.

8 Oddi yno âi'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.

9 O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.

10 O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.

11 Wedi hyn âi'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y môr.

12 Glannau'r Môr Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn ôl eu tylwythau.

Caleb yn Ennill Hebron a Debir

13 Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.

14 Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.

15 Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.

16 Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.”

17 Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.

18 Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?”

19 Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.

Canolfannau Jwda

20 Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn ôl eu tylwythau.

21 Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur,

22 Cina, Dimona, Adada,

23 Cedes, Hasor, Ithnan,

24 Siff, Telem, Bealoth,

25 Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor),

26 Amam, Sema, Molada,

27 Hasar-gada, Hesmon, Beth-pelet,

28 Hasar-sual, Beerseba, Bisiothia,

29 Baala, Iim, Esem,

30 Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna,

31 Lebaoth, Silhim, Ain a Rimmon:

32 cyfanswm o naw ar hugain o drefi a'u pentrefi.

33 Yn y Seffela yr oedd Estaol, Sora, Asna,

34 Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam,

35 Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca,

36 Saaraim, Adithaim, Gedera a Gederothaim: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.

37 Senan, Hadasa, Migdal-gad,

38 Dilean, Mispe, Joctheel,

39 Lachis, Boscath, Eglon,

40 Cabbon, Lahmam, Cithlis,

41 Gederoth, Beth-dagon, Naama a Macceda: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.

42 Libna, Ether, Asan,

43 Jiffta, Asna, Nesib,

44 Ceila, Achsib a Maresa: naw o drefi a'u pentrefi.

45 Ecron a'i maestrefi a'i phentrefi;

46 ac, i'r gorllewin o Ecron, y cwbl oedd yn ymyl Asdod, a'u pentrefi.

47 Asdod, ei maestrefi a'i phentrefi; Gasa, ei maestrefi a'i phentrefi at nant yr Aifft, ac at lan y Môr Mawr.

48 Yn y mynydd-dir yr oedd Samir, Jattir, Socho,

49 Danna, Ciriath-sannath (sef Debir),

50 Anab, Astemo, Anim,

51 Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi.

52 Arab, Duma, Esean,

53 Janum, Beth-tappua, Affeca,

54 Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sïor: naw o drefi a'u pentrefi.

55 Maon, Carmel, Siff, Jutta,

56 Jesreel, Jocdeam, Sanoa,

57 Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi.

58 Halhul, Beth-sur, Gedor,

59 Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi.

60 Ciriath-baal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi.

61 Yn yr anialwch yr oedd Beth-araba, Midin, Sechacha,

62 Nibsan, Dinas yr Halen ac En-gedi: chwech o drefi a'u pentrefi.

63 Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24