Josua 18 BCN

Rhannu Gweddill y Tir

1 Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen,

2 ond yr oedd ar ôl ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth.

3 Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi?

4 Dewiswch dri dyn o bob llwyth, imi eu hanfon allan i gerdded y wlad a gwneud rhestrau ar gyfer ei hetifeddu, ac yna dod yn ôl ataf.

5 Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thŷ Joseff ei derfyn yn y gogledd.

6 Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch â'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw.

7 Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD.”

8 Pan oedd y dynion yn cychwyn ar eu taith i restru'r tir, gorchmynnodd Josua iddynt, “Ewch i fyny ac i lawr y wlad, a rhestrwch hi; yna dewch yn ôl ataf fi, ac fe fwriaf goelbren drosoch gerbron yr ARGLWYDD yma yn Seilo.”

9 Aeth y dynion, a cherdded y wlad a'i rhestru mewn llyfr, yn saith rhan, fesul trefi; yna daethant yn ôl at Josua yng ngwersyll Seilo.

10 Bwriodd Josua goelbren drostynt gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo, a rhannu'r tir i'r Israeliaid, cyfran i bob un.

Rhandir Llwyth Benjamin

11 Pan ddisgynnodd coelbren llwyth Benjamin yn ôl eu tylwythau, cawsant diriogaeth rhwng Jwda a thylwyth Joseff.

12 I'r gogledd âi'r terfyn o'r Iorddonen i fyny heibio i lechwedd gogleddol Jericho, a thua'r gorllewin, i'r mynydd-dir, nes cyrraedd anialwch Beth-afen.

13 Croesai'r terfyn oddi yno i Lus, ac i'r de ar hyd llechwedd Lus, sef Bethel, ac yna i lawr at Ataroth-adar ar y mynydd i'r de o Beth-horon Isaf.

14 Yr oedd y terfyn yn newid ei gyfeiriad ar yr ochr orllewinol, ac yn troi tua'r de o'r mynydd sy'n wynebu Beth-horon, ac ymlaen nes cyrraedd Ciriath-baal, sef Ciriath-jearim, tref yn perthyn i Jwda. Dyma'r ochr orllewinol.

15 Yr oedd ochr ddeheuol y terfyn yn mynd o gwr Ciriath-jearim tua'r gorllewin, hyd at ffynnon dyfroedd Nefftoa.

16 Yna âi'r terfyn i lawr at gwr y mynydd sy'n wynebu dyffryn Ben-hinnom, i'r gogledd o ddyffryn Reffaim; wedi hynny, i lawr dyffryn Hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid at En-rogel.

17 Wedi troi tua'r gogledd, âi i En-semes ac ymlaen i Geliloth, gyferbyn â rhiw Adummim, ac i lawr at faen Bohan fab Reuben,

18 cyn croesi ochr ogleddol y llechwedd sy'n wynebu'r Araba, a mynd i lawr yno.

19 Yna âi'r terfyn ar hyd ochr ogleddol llechwedd Beth-hogla, nes cyrraedd cilfach ogleddol y Môr Marw ac aber yr Iorddonen. Hwn yw'r terfyn deheuol.

20 Yr Iorddonen yw'r terfyn ar yr ochr ddwyreiniol. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn ôl eu tylwythau, a'i therfynau o amgylch.

21 Y trefi sy'n perthyn i lwyth Benjamin, yn ôl eu tylwythau, yw: Jericho, Beth-hogla, Emec-cesis,

22 Beth-araba, Semaraim, Bethel,

23 Afim, Para, Offra,

24 Ceffar Haammonai, Offni a Geba: deuddeg o drefi a'u pentrefi.

25 Gibeon, Rama, Beeroth,

26 Mispe, Ceffira, Mosa,

27 Recem, Irpeel, Tarala,

28 Sela, Eleff, Jebusi (sef Jerwsalem), Gibea a Ciriath: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn ôl eu tylwythau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24