1 Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan yr Israeliaid ac y cymerwyd meddiant o'u tiroedd i'r dwyrain o'r Iorddonen, o nant Arnon hyd at Fynydd Hermon, gan gynnwys holl ddwyrain yr Araba:
2 Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon. Yr oedd ef yn llywodraethu o Aroer, sydd ar ymyl nant Arnon, dros hanner Gilead, hynny yw, o ganol nant Arnon hyd at nant Jabboc, terfyn yr Ammoniaid;
3 hefyd dros ddwyrain yr Araba o lan Môr Cinneroth at lan môr yr Araba, sef y Môr Marw, i gyfeiriad Beth-jesimoth ac ymlaen i'r de dan lethrau Pisga.
4 Og brenin Basan, un o weddill y Reffaim, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei.
5 Yr oedd ef yn llywodraethu dros Fynydd Hermon, Salcha, a Basan i gyd, hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a thros hanner Gilead hyd at derfyn Sihon brenin Hesbon.
6 Fe'u gorchfygwyd gan Moses gwas yr ARGLWYDD a'r Israeliaid; a rhoddodd Moses gwas yr ARGLWYDD y tir yn feddiant i'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse.
7 Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn ôl eu cyfrannau
8 yn y mynydd-dir, y Seffela, yr Araba, y llechweddau, y diffeithwch a'r Negef; yno'r oedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dyma'r brenhinoedd:
9 brenin Jericho, brenin Ai ger Bethel,
10 brenin Jerwsalem, brenin Hebron,
11 brenin Jarmuth, brenin Lachis,
12 brenin Eglon, brenin Geser,
13 brenin Debir, brenin Geder,
14 brenin Horma, brenin Arad,
15 brenin Libna, brenin Adulam,
16 brenin Macceda, brenin Bethel,
17 brenin Tappua, brenin Heffer,
18 brenin Affec, brenin Lasaron,
19 brenin Madon, brenin Hasor,
20 brenin Simron-meron, brenin Achsaff,
21 brenin Taanach, brenin Megido,
22 brenin Cedes, brenin Jocneam yng Ngharmel,
23 brenin Dor yn Naffath-dor, brenin Goim yn Gilgal,
24 brenin Tirsa. Yr oedd tri deg ac un o frenhinoedd i gyd.