13 Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan.
14 Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel.
15 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.
16 Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda.
17 Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda,
18 dywedodd Josua, “Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio.
19 Peidiwch chwithau â sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch â gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael.”