24 Wedi iddynt ddod â'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wŷr Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, “Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn.” Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau.
25 Yna dywedodd Josua wrthynt, “Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd â hwy.”
26 Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr.
27 Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw.
28 Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin â'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.
29 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni.
30 Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.