34 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.
35 Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis.
36 Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni.
37 Goresgynnodd hi a tharo â'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon.
38 Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni.
39 Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.
40 Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.