38 Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni.
39 Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.
40 Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
41 Trawodd Josua hwy o Cades-barnea hyd at Gasa, ac o wlad Gosen i gyd hyd at Gibeon.
42 Goresgynnodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a'u tiroedd mewn un cyrch am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd dros Israel.
43 Yna fe ddychwelodd Josua a holl Israel gydag ef i'r gwersyll yn Gilgal.