7 Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr.
8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen.”
9 Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar ôl teithio trwy'r nos o Gilgal.
10 Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chwâl o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda.
11 Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf.
12 Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngŵydd yr Israeliaid:“Haul, aros yn llonydd yn Gibeon,a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.”
13 Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan.