1 Pan glywodd Jabin brenin Hasor, anfonodd at Jobab brenin Madon ac at frenhinoedd Simron ac Achsaff,
2 hefyd at y brenhinoedd oedd ym mynydd-dir y gogledd ac yn yr Araba i'r de o Cinneroth, ac yn y Seffela a Naffath-dor yn y gorllewin.
3 Yr oedd y Canaaneaid i'r dwyrain a'r gorllewin, a'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebusiaid yn y mynydd-dir, gyda'r Hefiaid dan Fynydd Hermon yn ardal Mispa.
4 Daethant allan, hwy a'u holl fyddinoedd, yn llu enfawr, mor niferus â'r tywod ar lan y môr, gyda llawer iawn o feirch a cherbydau.
5 Wedi i'r holl frenhinoedd hyn ymgynnull, aethant a gwersyllu ynghyd ger Dyfroedd Merom er mwyn ymladd ag Israel.
6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd tua'r adeg yma yfory byddaf yn rhoi pob un yn gelain gerbron Israel; byddi'n torri llinynnau garrau eu meirch ac yn llosgi eu cerbydau â thân.”
7 Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt.